Celf Weledol


Brian Jones

Visual Artist who has run screenprinting and poster printing workshops for Arts Connection.

“Mae dwy agwedd ar fy ngwaith; fy ngweithiau celf fy hunan, a’r gweithdai a’r prosiectau rwyf yn eu cynnal. Nod fy ngweithdai yw Creu, Datgyfrinio, Addysgu ac Ysbrydoli. Rwyf yn mwynhau gweithio gyda phlant, a grwpiau gallu cymysg, ac rwyf wedi cynnal gweithdai mewn argraffu crysau T, printio gyda stensil a sgrin, gludwaith, dylunio stampiau, a gludwaith digidol (Photoshop). Mae gweithdai yn ffordd i ‘roi rhywbeth yn ôl’; i blentyn cael gweld sut, ac yna argraffu ei grys T ei hunan, yn rhoi grym i’r plentyn a boddhad i mi. Gallaf weithio yn ôl briff, neu gellir teilwra prosiectau a gweithdai yn ôl anghenion y rhai sy’n cymryd rhan.”

Yn ystod y flwyddyn aeth heibio, mae Brian wedi dylunio ac wedi argraffu arwyddion mannau ailgylchu Gweithdy Llanfyllin, wedi cynnal gweithdai argraffu gyda dros 500 o blant, wedi sefydlu stiwdio argraffu sgrin newydd, wedi dylunio ac argraffu arian breiniol ‘y Dolydd’, wedi cynhyrchu ei rifyn efydd cyntaf, wedi dod yn aelod ‘Arloesol’ o ‘Culture Colony’, wedi cynhyrchu gwaith i ‘Futile Gestures’, ac wedi creu ‘The Ghosts of Llanfyllin’ gyda’i fab ieuengaf ar gyfer Gŵyl Ffilmic (a enillodd y wobr am ‘Ddyluniad Sain Gorau’).

Mae wedi bod yn weithgar ym maes celf gymunedol ers cwblhau ei radd Gelf Gain yn Ysgol Gelf Lerpwl, ac mae wedi bod yn aelod o Ganolfan Argraffu Ranbarthol (Wrecsam) ers 2002, ac mae’n aelod o Gyswllt Celf ar hyn o bryd.

Ymysg prosiectau diweddar, mae’r gweithdai hynod lwyddiannus “Pawb a’i Gilydd”, sef cyfres o weithdai rhyng-gymunedol a gallu cymysg yn Derry, Gogledd Iwerddon. Roedd y rhain yn cynnwys disgyblion o ddwy ysgol, ac arddangoswyd eu gwaith yn y Void Gallery (Derry), ac mae pedwar print fformat mawr ar arddangosfa barhaol erbyn hyn yn adeilad HML yn y ddinas. Gwnaethpwyd y prosiect hwn mewn partneriaeth gyda’r Cresco Trust/Stravaganza, ac fe’i arianwyd drwy grant gan UnLtd.

Brian oedd yn arwain prosiect ar y cyd gan y Ganolfan Argraffu Ranbarthol a Chyswllt Celf ‘Darganfod Hunaniaeth Ddiwylliannol’ gyda disgyblion o Ysgol Gynradd Gwenfro, Wrecsam. Roedd y plant wedi cynhyrchu gludweithiau a argraffwyd wedyn fel dalenni o stampiau post gludiog a thrydyllog. Arddangoswyd y gweithiau hyn yn yr Oriel Goffa (Wrecsam) yn ystod Gwanwyn 2010; ac mae tri o’r gweithiau cyfansawdd yn cael eu harddangos yn barhaol yn yr ysgol.

Mae wedi cynrychioli Cymru ym Mwlgaria fel artist ar ymweliad, a arianwyd gan Gelfyddydau Rhyngwladol Cymru, ac mae wedi arddangos mewn arddangosfa ‘Prints of Wales’ yn Ninas Kansas City, ac yn Tokyo ar gyfer ‘Art Machine’.

Cafodd ei waith ei arddangos yn y sioe Gelf Pop y Gorllewin gyntaf erioed yn Oriel ‘Singapore’s Collector’s Contemporary Gallery’, ac mae wedi bod yn destun erthygl nodwedd yng nghylchgrawn ‘China’s Fantasy Art’. Mae hefyd wedi cyfrannu at nifer o brosiectau mewn llyfrau a chylchgronau, gan gynnwys erthygl ar ‘Welsh Money’ yn rhifyn cyntaf ‘Welsh Art Now’, Blwyddlyfr y cylchgrawn Grapheion.

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf mae ei waith wedi cael ei ddangos, yn llythrennol, ochr yn ochr â gwaith gan Andy Warhol, Richard Hamilton a Roy Lichtenstein i enwi dim ond rhai.

Mae Brian Jones, sy’n byw yng Nghymru erbyn hyn, yn arddangos ar lefel genedlaethol a rhyngwladol, ac mae gwleidyddion, rheolwyr timau pêl-droed, sêr y byd ffilm a phop, ynghyd ag enwogion eraill y diwydiannau creadigol, yn berchen ar rai o’i weithiau.

CV

Non Available

Cyswllt

Gwefan

http://www.artofbrianjones.com/

www.myspace.com/artofbrianjones

Delwyddau

Gwenfro

Workshop

Gwenfro

Exhibition

Gwenfro

Exhibition

T-Shirts

Workshop

Powys Youth Arts Festival

Workshop