Ffotograffydd
Cordelia Weedon
Gweithdai ffotograffiaeth: Pindwll / Analog / Digidol
Enillais radd BA gydag anrhydedd mewn Ffotograffiaeth o Brifysgol Wolverhampton. Yn ystod fy nghwrs gradd, ymchwiliais ac ysgrifennais fy nhraethawd hir ar sut y gall ffotograffiaeth weithio mewn cyd-destun cymunedol. Rwyf wedi gweithio fel ffotograffydd proffesiynol, ac fel tiwtor yn dysgu ffotograffiaeth ar lefelau Addysg Bellach ac Addysg Uwch. Mae gen i ddiddordeb brwd mewn ffotograffiaeth ddogfen, a sut y gall gweithio mewn cyd-destun cymunedol, yn enwedig ffotograffiaeth gyfranogol drwy weithio gyda grwpiau gwahanol o bobl. Trwy’r ymrwymiad hwn, roeddwn yn un o’r aelodau oedd yn gyfrifol am sefydlu Cyswllt Celf ym 1993.
Rhwng 2000 - 2008 bues yn gweithio rhan amser fel gweithiwr prosiect i Photoworks Westminster, elusen sy’n arbenigo mewn defnyddio ffotograffiaeth gyfranogol fel dull o weithio gyda grwpiau sydd yn aml yn heriol yn y gymuned. Yn ystod y pedair blynedd gyntaf, roeddwn yn gweithio gydag oedolion oedd â phroblemau iechyd meddwl, fel rhan o fenter New Life for Paddington, ac am y pedair blynedd diwethaf, roeddwn yn gweithio’n bennaf gyda phobl ifanc. Yn ystod yr 8 mlynedd gyda Photoworks, enillais lawer o brofiad oedd yn mynd tu hwnt i ddysgu ffotograffiaeth yn unig, gan weithio gydag amrywiaeth eang o bobl o grwpiau ethnic gwahanol. Mwynheais yn fawr iawn y broses o alluogi pobl i ddefnyddio ffotograffiaeth ac ysgrifennu fel dull i fynegi eu hunain, a rhoi llais iddynt a’r cyfle i arddangos eu gwaith trwy arddangosfeydd a chyhoeddiadau.
Ar hyn o bryd ’dwi’n gweithio ar brosiect Dyddiaduron Ffotograffau Cymru Affrica trwy elusen leol, Dolen Ffermio. Prosiect yw hwn sy’n cysylltu ysgolion yng Nghymru ac yn Uganda, ac rwyf wedi gweithio gyda 4 ysgol yng Nghymru trwy Gyswllt Celf ac Oriel Davies, a 3 ysgol yn Kumi, Uganda, ac mae cynlluniau ar droed i weithio gyda mwy o ysgolion. Prosiect tymor hir yw hwn, sydd nid yn unig yn cysylltu ysgolion, ond sydd hefyd yn codi ymwybyddiaeth ynghylch problemau drwy leisiau’r bobl ifanc sydd ynghlwm wrth y prosiect.
Trwy gydol fy ngyrfa, rwyf wedi gweithio ar ben fy hun ac wedi cydweithio gydag artistiaid eraill. Yn y dyddiau cynnar, bues yn gweithio gyda Steven Berkoff ar ei gynyrchiadau cynnar o Macbeth a Kafka. Rwyf wedi cofnodi cerfluniau amrywiol yng Nghymru, y Canoldiroedd ac yn Rwsia. Yn fwy diweddar, rwyf wedi gweithio ar y cyd gydag ysgrifenwyr a chynhyrchwyr ffilm ar straeon digidol, a phrosiectau ffilmiau byrion. Mae arddangosfa barhaol o’m gwaith yng nghaffi Canolfan Crefftau Rhuthun, a ffilm fer Hiraeth yn cael ei dangos yn eu Porth Diwylliannol.
Awst 2010



