Tecstilau
Edna Griffiths
Economeg y cartref yw fy nghefndir i, ac mae gen i ddiddordeb mewn clytwaith, smocwaith, trefnu blodau ac mae gwaith ffelt yn flaenoriaeth uchel. O ganlyniad i’r diddordeb hwn, rwyf wedi mynychu ysgolion gwneud hetiau a gwneud blodau sidan.
Fy nod wrth weithio gyda phobl, yw eu galluogi i fwynhau’r hyn maent yn ei wneud, ennill hyder, cwrdd â phobl newydd a meithrin awydd i ddysgu mwy am grefft.
Rwyf wastad wedi gweithio yn y gymuned, yn rhoi cyflwyniadau, gweithdai, dyddiau yn ystod Wythnos Celfyddydau Mawr, rwyf wedi gwerthu fy ngwaith yn Llundain, yr Amwythig ac yn yr ardal leol trwy arddangos hetiau mewn llyfrgelloedd. Rwyf wedi ymddangos ar S4C dairgwaith yn trafod fy ngwaith.
’Dwi am barhau i gynhyrchu blodau sidan ar gyfer hetiau ’dwi’n gwneud, a hoffwn ddysgu mwy am fy nghrefft.
Mae gwneud ffelt dal yn bwysig iawn, a hoffwn barhau gyda’r gwaith hyn a’i hybu yn y gymuned leol.
Mewn gweithdai, byddaf yn sôn am ddefnyddio gwlân, bridiau defaid, yn arbrofi gyda hetiau, ac yn gwneud ffelt o ddillad gwlân neu lun tecstilau sy’n addas ar gyfer gwaith mewn ysgolion. Mae’r gweithdai yn gallu bod yn Gymraeg neu’n Saesneg.
’Dwi wedi gwneud gwaith ffeltio gyda Merched Y Wawr, Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, Casnewydd, gyda chleientiaid sydd ag anableddau dysgu a lloches i Ferched. Hefyd ’dwi’n brofiadol ym maes gwneud hetiau – rhai ffansi, defnyddio blociau a deunyddiau traddodiadol.



