Perfformiad a Dawns


Helen Young

Ar hyn o bryd ’dwi’n gweithio fel hwylusydd gweithdai drama a symud, ar fy liwt fy hunan. Rwyf wedi, a ’dwi’n dal i gyflwyno, prosiectau ar gyfer Border Dance, Cyngor Celfyddydau Lloegr, Cychwyn Cadarn, ac awdurdodau lleol yn ardal Sir Amwythig, Powys a Telford. Nod fy ngwaith yw annog pobl ifanc, plant a phobl sydd ag anawsterau dysgu i gael cyfle i fod yn rhan o weithdai drama a symud, sy’n arwain at berfformiad neu at rannu’r profiad mewn rhyw ffordd ar ddiwedd bob prosiect.

’Dwi hefyd yn gweithio fel cydlynydd a hwylusydd ar fy liwt fy hunan i gwmni Drama integredig yng Nghanolbarth Cymru, sef Masquerade Integrated Drama. Y nod o fewn y cwmni, yw defnyddio drama fel teclyn i integreiddio grwpiau cymysg eu gallu trwy weithdai a pherfformiadau.

Dros y pum mlynedd diwethaf, ’dwi hefyd wedi sefydlu cwmni gweithdai, sy’n cyflwyno 3 gwahanol weithdy i blant 2 - 12 oed ac oedolion gydag anawsterau dysgu ar ddydd Sadwrn. Erbyn hyn, lleolir y gweithdai yn Ysgol Hŷn Sundorne, Yr Amwythig (ond mae’n rhedeg yn annibynnol). Mae’r gweithdai’n arwain at 3 perfformiad y flwyddyn o flaen aelodau teuluoedd a ffrindiau. Nod y gweithdai yw annog hyder, cydsymud a chyfranogaeth o fewn y celfyddydau. ’Dwi hefyd yn hwyluso 3 grŵp arall sy’n perfformio yng Nghanolbarth Cymru.

Hyfforddiant

Ar hyn o bryd, ’dwi’n meddu ar HND mewn Celfyddydau Perfformio (2002 SCAT) OCN Lefel 3 mewn Dawns Cyn Ysgol (Dawns Powys 2005) a 180 credyd o Goleg Rose Bruford, Caint mewn Astudiaethau Theatr. ’Dwi hefyd wedi hyfforddi gyda Chwmni Dawns Blue Eyed Soul, Yr Amwythig, trwy brosiect oedd yn cydweithio gydag artistiaid anabl; oddi yno aethom ar daith gyda phrosiect dawns integredig yng Nghanolbarth Cymru.

Datganiad o Genhadaeth Double H Creative Movement & Drama

Cwmni gweithdai yw Double H Creative Movement & Drama sy’n cydnabod buddion Drama a Symud i blant, pobl ifanc, ac oedolion sydd ag anawsterau dysgu.

Mae’r gweithdai’n egnïol, yn cael eu strwythuro’n greadigol ac yn cynnwys pawb yn y gwaith dylunio.

Mae Double H yn hyrwyddo datblygu cydsymud, canolbwyntio a gallu creadigol unigolion trwy gydol y gweithdai.

CV

Not available online

Cyswllt

hhdrama@hotmail.co.uk

Delwyddau

A Great Night Out (Adult group)

Helen Young

A Great Night Out (Adult group)

Helen Young

Dongfang and the Festival of Lanterns (7-10 yrs)

Helen Young

Faeries & Monsters with Pre School

Helen Young

Hand Jive (7-10 yrs)

Helen Young

Dongfang and the Festival of Lanterns (7-10 yrs)

Helen Young

Native American

Helen Young

Performance Group (7-10 yrs)e

Helen Young

Bring Your Pet to School Day Performance (5-7 yrs)

Helen Young

Faeries & Pirates (7-10 yrs)

Helen Young