Cerdd
Niall Evans
Nod cyffredinol fy holl waith yw sicrhau fod cerddoriaeth yn hwyl, yn weithgaredd cymdeithasol, ar gael i bawb ei fwynhau ar ba lefel bynnag sy’n addas iddyn nhw.
Rwyf wedi gweithio gyda phlant 2 oed, a phobl hyn hyd at 70 oed, yn ceisio cyfoethogi eu profiadau hwy trwy gerddoriaeth. Mae rhai’n fodlon gwrando a diddori, tra bo eraill am fod yn fwy gweithredol.
Yn ogystal â dysgu offerynnau, hoffwn rwan ystyried posibiliadau’r llais fel dull i fynegi eich hunan, efallai’n gysylltiedig â mathau eraill o gelf. Hefyd mae gen i ddiddordeb yn y syniad cyffredinol o luniau a sain.
Gallaf gynnig gweithgareddau offerynnau taro, sy’n cynnwys ymwybyddiaeth ynghylch gwrthgyferbyniadau megis uchel/tawel, cyflym/araf a symud ymlaen at hunanfynegiant trwy ddrymio. Cyfathrebu drwy Gerddoriaeth, sy’n cynnwys gweithgareddau synhwyrol. Datblygiad y Llais, trwy straeon a cherddi lleisio/sain. Grwpiau Recorder i feithrin rhythm/gwaith tîm a rheoli anadl. Gweithdai Canu, sy’n arwain ar gynhyrchiad/perfformiad terfynol. Datganiadau gydag eitemau’n amrywio o sioeau poblogaidd i emynau enwog.



