Ffilm / Celf Weledol / Digidol Cyfryngau
Tony Wainwright
Ar ôl ymuno â Chyswllt Celf fel un o’r sylfaenwyr ac arlunydd, symudais yn raddol i faes graffeg gyfrifiadurol. Yn y pen draw, arweiniodd hyn at olygu fideo a gwaith ôl-gynhyrchu. Y cam nesaf oedd ysgrifennu a chyfarwyddo gwaith fideo, ac erbyn hyn dyna sy’n llenwi f’amser. Rwyf wedi gweithio ar gynhyrchu nifer o fideos cymunedol, yn gweithio gyda chlybiau ieuenctid a grwpiau gydag anawsterau dysgu.
Gallaf gynnig hyfforddiant ar Adobe Premiere a Photoshop sylfaenol.



