Prosiect Cerdd Ieuenctid Powys 07
Mae Prosiect Cerdd Ieuenctid Powys wedi bod yn rhedeg ers 9 mlynedd, ac mae’n galluogi pobl ifanc i gael mynediad i offer cerddorol a cherddorion proffesiynol er mwyn creu a pherfformio cerddoriaeth. Mae’n rhoi cyfle i’r bobl ifanc chwarae offerynnau am y tro cyntaf, neu i’r bobl ifanc hynny sydd eisoes yn canu offeryn, mae’n gyfle i ddatblygu sgiliau sydd ganddynt eisoes.
Ar ddiwedd y gweithdai, bydd y grwpiau’n cael cyfle i recordio yr hyn a gyfansoddwyd. Bydd rhai yn mynd ymlaen i sefydlu bandiau ac i greu mwy o gerddoriaeth.
Eleni, bu nifer o brosiectau llwyddiannus ar y gweill. Bu Tommy Mills yn gweithio yn Ysgol Dafydd Llwyd i recordio cân yn Gymraeg, ac aethy plant ymlaen i ennill y gystadleuaeth i fandiau yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd. Byddant hefyd yn ymddangos ar y rhaglen ’Take a Bow’ ym mis Rhagfyr. Mae’r ‘Walkmen’, band ifanc o Lanfyllin, wedi cael cyfle i recordio eu cân hwy, ac aethant ymlaen wedyn i gynhyrchu fideo gyda chymorth Gwasanaeth Ieuenctid Powys.



