Strafagansa Celf 05
Strafagansa Celf yr Haf
Cynhaliwyd prosiect eleni ar ddyddiau Gwener ym mis Awst.
Daeth grðp o 30 o oedolion gydag anableddau dysgu o Mencap Llanfyllin, Cae Melyn, canolfan dydd Rhos Lyn Tre'r Llai ac Academi Vyrnwy ynghyd i fwynhau gweithdai mewn llais ac offer taro, dawns a chreadigrwydd gweledol.
Ar ddiwedd y gweithdai, daeth gwahoddedigion i wrando ar y perfformiad terfynol ar y diwrnod olaf.
Strafagansa Celf y Gwanwyn
'Deffroad y Gwanwyn' oedd y thema ar ddiwrnod hynod o oer a gwlyb ym mis Ionawr, pan dreuliodd cyfranogwyr, artistiaid, hwyluswyr a gweithwyr cymorth 6 awr gyda'i gilydd yng Nghapel y Methodistiaid yn y Trallwng.
Fel y gwelwch o'r lluniau, gwnaethpwyd llawer iawn o waith. Roedd maint y lleoliad yn golygu fod popeth wedi digwydd mewn un ystafell, felly roedd cyfranogwyr yn gallu symud o gwmpas neu aros i weithio mewn un cyfrwng yn unig. O ganlyniad, roedd yr awyrgylch yn hyfryd dros ben, a byddwn yn ceisio defnyddio'r un fformiwla mewn prosiectau'r dyfodol lle bo hynny'n bosibl.
Ym mis Mawrth, treuliwyd diwrnod yng nghwmni defnyddwyr gwasanaeth Mencap Llanfyllin er mwyn creu baner ar gyfer eu stondin crefftau, a blodau enfawr o ddefnyddiau a basgedi.



