Gwyl Ffilm Ffilmic
Cyswllt Celf, mudiad celfyddydau cymunedol wedi’i leoli yn Llanfyllin sydd wedi creu’r Wyl. Mae Cyswllt Celf yn trefnu prosiectau bach a mawr ym maes celf ar hyd Gogledd Powys i bobl o bob oed a gallu.
A’r nod yw creu mynediad i ffilmiau annibynnol tu allan i’r brif ffrwd, yn ogystal â galluogi mynediad i addysg anffurfiol ynghylch ffilmiau i bobl o bob oed.
Rydym yn cynnig cyfle i bobl sy’n byw mewn ardaloedd gwledig cael mynediad i weithdai gyda gweithwyr proffesiynol yn y diwydiant Ffilm a Theledu, ac i gynnig mynediad i ffilmiau tu allan i’r brif ffrwd i annog y diwylliant ffilm mewn ffurfiau amrywiol o arbrofol / celfyddydol i ffilmiau mewn ieithoedd tramor a ffilmiau traethawd a mwy.
Ein gobaith yw y bydd yr Wyl yn annog angerdd a chariad tuag at y diwylliant ffilm ac yn rhoi cyfle i edrych ar a dysgu mwy am ddelweddau sy’n symud a’r dulliau niferus y gellir eu defnyddio ar gyfer pwrpasau artistig, gwleidyddol a phleserus.
For more information visit: www.ffilmic.co.uk



