Prosiect Cerdd Ieuenctid Powys 2009

Mae Prosiect Cerdd Ieuenctid Powys wedi bod yn rhedeg ers dros 10 mlynedd, ac mae’n galluogi pobl ifanc ar draws Gogledd Powys i gael mynediad i offer cerddorol a cherddorion proffesiynol i greu eu caneuon eu hunain. Byddwn yn trefnu pedwar sesiwn, neu amser cyfatebol i hyn, ym mhob Canolfan Ieuenctid yng Ngogledd Powys, ac mae’r sesiynau yn cynnwys pobl ifanc sydd erioed wedi canu offeryn o’r blaen ynghyd â’r rhai sydd yn canu offeryn eisoes, ac sy’n awyddus i ddatblygu eu sgiliau. Mae’r prosiect yn galluogi’r grŵp i ddysgu gyda’i gilydd a rhannu eu sgiliau er mwyn creu cân, a byddant wedyn naill ai’n mynd ymlaen i recordio’r gân neu ei pherfformio’n fyw mewn lleoliadau amrywiol.

Eleni, recordiwyd band o Ysgol Uwchradd Llanfyllin – a’r wobr oedd cyfle i recordio’u cân a derbyn cymorth proffesiynol i gystadlu ym mrwydr y bandiau a drefnir gan yr ysgol, sy’n gystadleuaeth flynyddol. Cafodd band Canolfan Ieuenctid Llanidloes gyfle hefyd i recordio eu cân hwy, ac i berfformio’n fyw yng Ngŵyl Celfyddydau Ieuenctid Powys o flaen cynulleidfa o bobl ifanc ar draws Powys. Bu Tommy Mills a Tony Skeggs yn cefnogi gyda’r prosesau hyn. Bu Canolfan Ieuenctid Y Trallwng yn arbrofi gyda cherddoriaeth ddigidol, gan greu nifer o alawon a ddefnyddiwyd fel trac sain ar DVD ynghylch Canolfan Ieuenctid Y Trallwng a’r gweithgareddau sy’n digwydd yno. Dewis Machynlleth oedd Drymio Affricanaidd gyda Patrick Harrison gan fod yna grŵp o bobl ifanc oedd yn awyddus i ddysgu mwy o sgiliau yn y maes yma.

Cerddoriaeth

To listen to all the songs created through this project click here

Delweddau

Powys Youth Music Project

Powys Youth Music Project