Download pdf - Briff Artistiaid Prosiect ‘Fi a’m Pethau’ 2010
Download pdf - AMLINELLIAD O GYNNIG PROSIECT PROSIECT FI A’M PETHAU
Tender for the 'Me and Mine' Project
Cefndir a Chyd-destun
Mae Cyswllt Celf yn gweithio mewn partneriaeth gyda Chynhalwyr Ifanc Powys ar raglen o weithgareddau celf a ariennir gan Sefydliad Lankelly Chase.
Nod y prosiect yw rhedeg sesiynau blasu celfyddydau ar draws Powys. Wedyn bydd Cynhalwyr Ifanc yn penderfynu pa weithdai celf bydden nhw’n hoffi datblygu ymhellach.
Briff
Rydym yn chwilio am gynigion ar gyfer gweithdai ar draws amrediad o ymarferion artistig i gynnig gweithdai blasu i gynhalwyr ifanc ar draws Powys.
Bydd y prosiect yn rhedeg mewn tair ardal:
- Maldwyn – Canolfan Ieuenctid Y Trallwng – dydd Sadwrn 2ail Hydref, 10yb – 4yp
- Maesyfed – CARAD – dydd Sadwrn 25ain Medi, 10yb – 4yp
- Brycheiniog – Canolfan Ieuenctid Aberhonddu – dydd Sadwrn 2ail Hydref, 10yb – 4ypm
D.S. Gall artistiaid ymgeisio am fwy nag un diwrnod, er bod gweithdai Maldwyn a Brycheiniog yr un diwrnod; gall artistiaid o’r naill ardal neu’r llall hefyd ymgeisio i weithio ym Maesyfed.
Bydd 6 artist yn gweithio ym mhob ardal. Bydd tua 30 o gynhalwyr ifanc ym mhob diwrnod gweithdy, sy’n golygu y bydd grwpiau’n cynnwys rhyw 7 o bobl ifanc yr un.
Disgwyliwn i’r artist redeg gweithdy fydd yn cael ei ail-adrodd tair gwaith mewn diwrnod er mwyn cynnig lle i’r cynhalwyr ifanc fydd yn bresennol.
Dewisir pedwar o’r chwe artist i redeg diwrnod arall o weithgareddau yn ystod gwyliau hanner tymor yr Hydref. Mae’n rhaid i artistiaid felly fod ar gael i weithio ar un o’r dyddiau a ddewisir fel yr amlinellir ar y ffurflen cynnig prosiect.
Canllawiau Tâl at bwrpas Cyllidebu
Cyfradd Ddyddiol Artist - £150; os ydych yn teithio dros 50 milltir (cyfanswm yno ac yn ôl) telir costau teithio ar raddfa £0.40 y filltir.
Dethol a Chymhwysedd
Bydd angen i artistiaid sy’n ymgeisio dangos profiad ym maes celfyddydau cymunedol a phrofiad o weithio gyda phobl ifanc.
Y Broses Ymgeisio
Gofynnir i artistiaid gyflwyno llythyr atodol gyda:
- Ffurflen Cynnig Prosiect
- 5 llun o waith blaenorol (os nad ydych wedi gweithio i Gyswllt Celf o’r blaen)
- CV
- Rhif CRB a’r Dyddiad Cyhoeddi (os nad oes gennych wiriad CRB cyfredol, bydd yn rhaid i chi fynd drwy’r broses wirio cyn cychwyn y prosiect; cost hyn yw £36)
D.S.: gall methu â chyflwyno unrhyw un o’r uchod ddiddymu eich cais.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau, neu os am gael gwybodaeth bellach, croeso i chi ffonio’r swyddfa ar: 01691 648 929
Anfonwch eich cais, un ai drwy’r post neu e-bost, at:
Cyswllt Celf, Canolfan Ieuenctid a Chymuned, Llanfyllin, Powys, SY22 5DR neu anfonwch e-bost at:
Dyddiad cau i dderbyn ceisiadau: Dydd Llun 16eg Awst 2010
Download pdf - Tendr Artist Tender i Gyswllt Celf - Prosiect Ffilm gyda Chlybiau Ieuenctid Llanfyllin a Llanfair Caereinion -
Tendr Artist Tender i Gyswllt Celf - Prosiect Ffilm gyda Chlybiau Ieuenctid Llanfyllin a Llanfair Caereinion -
Rhaglennir i ddigwydd yn ystod Tymor yr Hydref 2010
Cefndir a Chyd-destun
Mae Cyswllt Celf yn rheoli prosiect ffilm i Wasanaeth Ieuenctid Powys.
Canlyniad y prosiect yw creu ffilm 10 munud i hyrwyddo’r Gymraeg a Diwylliant Cymreig mewn perthynas â materion sy’n effeithio ar bobl ifanc.
Briff
Mae angen gwneuthurwr ffilm a hwylusydd i alluogi pobl ifanc o Glybiau Ieuenctid Llanfyllin a Llanfair Caereinion i greu ffilm 10 munud ar thema’r Gymraeg a Diwylliant Cymreig.
Bydd y prosiect yn rhedeg dros gyfnod o 10 wythnos yn ystod Tymor yr Hydref, gyda 5 sesiwn ym mhob lleoliad. Y nod yw caniatáu i’r bobl ifanc eu hunain ddysgu’r sgiliau fydd eu hangen, a chreu’r ffilm eu hunain gyda chefnogaeth broffesiynol yr artist a’r hwylusydd.
Mae’n rhaid i’r darn o waith fod yn ysbrydol, creadigol a gwreiddiol gyda gwerthoedd cynhyrchu rhagorol.
Bydd pum diwrnod ar gael i olygu’r ffilm 10 munud derfynol.
Gellir ymgeisio’n unigol naill ai fel artist neu fel hwylusydd, neu gellir cyflwyno cais ar y cyd.
Offer a ddarperir gan Gyswllt Celf
- 2 gamera Canon XM2 & 3 Canon Legria HF-S10
- 2 Treipod
- 4 Gliniadur Apple gyda rhaglen Final Cut Express (Mae’r rhaglen Pro ar gael yn swyddfa CC)
- Meicroffon Sennheiser a dyfais recordio
Ffïoedd
Telir ffi artist o £75 y sesiwn (3 awr). Telir ffi hwylusydd o £30 y sesiwn. Os ydych yn teithio dros 50 milltir (cyfanswm yno ac yn ôl) telir costau teithio ar raddfa £0.40 y filltir.
Dethol a Chymhwyster
Bydd angen i artistiaid sy’n ymgeisio dangos profiad o weithio gyda phobl ifanc, profiad o weithio ar ffilm(iau) cymunedol, a byddai’n ddymunol cael gwneuthurwr ffilm sy’n siarad Cymraeg a/neu sy’n deall diwylliant a threftadaeth Cymru.
Y Broses Ymgeisio
Artist:
Llythyr atodol gydag:
- Enw a Manylion Cyswllt
- Datganiad gan yr Artist (500 gair uchafswm) ynghylch eich gwaith artistig
- Cynllun i’r sesiynau
- Datganiad ynghylch sut byddwch yn ymgysylltu â’r bobl ifanc i drafod Y Gymnraeg a diwylliant Cymru.
- Rholyn arddangos – naill ai ar DVD neu wefan neu Youtube
- CV
- Rhif CRB a’r Dyddiad Cyhoeddi (os nad oes gennych wiriad CRB cyfredol, bydd angen i chi fynd drwy’r broses cyn cychwyn y prosiect – cost hyn fydd £36)
Hwylusydd:
Llythyr atodol gyda:
- CV
- Rhif CRB a’r Dyddiad Cyhoeddi (os nad oes gennych wiriad CRB, bydd angen i chi fynd drwy’r broses cyn cychwyn y prosiect – cost hyn fydd £36) )
DS: gall methu â chyflwyno unrhyw un o’r uchod ddiddymu eich cais.
Dylid anfon eich cais naill ai drwy e-bost neu drwy’r post at: Cyswllt Celf, Canolfan Ieuenctid a Chymunedol, Llanfyllin, Powys, SY22 5DR neu gellir e-bostio at:
Dyddiad cau i dderbyn ceisiadau: Dydd Llun 2ail Awst 2010
Bydd pob cais yn cael ei adolygu gan Banel Dethol fydd yn cynnwys cynrychiolwyr o Gyswllt Celf a mudiadau partner.
Download pdf - Briff Artistiaid Prosiect Ysgolion Wrecsam 2010
Download pdf - AMLINELLIAD O GYNNIG PROSIECT
Briff Artistiaid Prosiect Ysgolion Wrecsam 2010
- Rhaglennir i ddigwydd Mis Medi 2010 - Chwefror 2011 -
Cefndir a Chyd-destun
Bydd Cyswllt Celf yn rhedeg rhaglen o weithgareddau celf o fewn ysgolion Wrecsam er mwyn hyrwyddo’r Eisteddfod Genedlaethol sydd i’w chynnal yno yn 2011, yn ogystal â dathlu Blwyddyn Diwylliant Wrecsam yr un flwyddyn. Bydd y rhaglen o weithgareddau yn cychwyn ym mis Medi 2010 ac yn rhedeg hyd at Chwefror 2011.
Briff
Rhedeg gweithdai celf o fewn ysgolion Wrecsam trwy gyfrwng y Gymraeg neu yn ddwyieithog, neu gyda chysylltiad cryf â diwylliant a threftadaeth Cymru. Gellir cynnal prosiectau mewn unrhyw gyfrwng celfyddydol - celfyddydau gweledol, cerddoriaeth, ffilm ac ati.
Ni ddylai cynigion prosiect barhau am fwy na 5 niwrnod (neu amser cyffelyb); efallai yr hoffech gynnwys amrediad o strwythurau h.y. prosiectau y gellir eu cyflawni o fewn diwrnod neu ddau, ac y gellir eu rhedeg mewn nifer o ysgolion.
Bydd angen i chi gynnwys cyllideb gyda ffioedd artistiaid, costau deunyddiau, costau teithio ac ati, a nodi hefyd pa gefnogaeth ychwanegol fydd ei hangen i’r prosiect.
Canllawiau Tâl at bwrpas Cyllidebu
Cyfradd Ddyddiol Artist - £150; os ydych yn teithio dros 50 milltir (cyfanswm yno ac yn ôl) telir costau teithio ar raddfa £0.40 y filltir.
Dethol a Chymhwyster
Bydd angen i artistiaid sy’n ymgeisio dangos profiad ym maes celfyddydau cymunedol, a phrofiad o weithio gyda phlant oedran cynradd a phobl ifanc.
Y Broses Ymgeisio
Gofynnir i artistiaid gyflwyno:
- Ffurflen Cynnig Prosiect
- Llythyr Atodol
- O leiaf 5 llun o waith blaenorol (os nad ydych wedi gweithio i Gyswllt Celf o’r blaen)
- CV
- Rhif CRB a’r Dyddiad Cyhoeddi (os nad oes gennych wiriad CRB, bydd yn rhaid i chi fynd drwy’r broses wirio cyn cychwyn ar y prosiect; cost hyn yw £36)
D.S.: gall methu â chyflwyno unrhyw un o’r uchod ddiddymu eich cais.
Dylid anfon eich cais, naill ai ar e-bost neu drwy’r post at: neu Cyswllt Celf, Canolfan Ieuenctid a Chymunedol, Llanfyllin, Powys, SY22 5DR



